Thursday 19 May 2011

Fire-Fighting yn ennill cystadleuaeth ysgrifennu

John Harold yw enillydd cystadleuaeth ysgrifennu Natur yn Ysbrydoli Natur Cymru a noddir gan WWF Cymru a Tŷ Newydd, y ganolfan ysgrifennu genedlaethol.

Dywedodd Gillian Clarke, bardd cenedlaethol Cymru ac un o'r beirniaid: 'Rhoddais y wobr gyntaf i John Harold am Fire-Fighting. Hwn oedd y darn y dysgais fwyaf ganddo. Mwynheais y ffordd y gwnaeth y stori am dân yn y rhostir a'r mynyddoedd ddatblygu, a gallu'r tân i ddinistrio ac adfywio. Roedd cais Frances Voelcker yn agos at y brig hefyd, a hynny am ei harsylwadau ar amgylchedd naturiol cyfnewidiol Graig Goch.'

Bydd Gillian Clarke yn cyflwyno gwobr ariannol o £500 i John Harold yng Ngŵyl y Gelli ar 31ain Mai a hefyd yn cyflwyno taleb o £500 ar gyfer cwrs preswyl yn Nhŷ Newydd i Frances Voelcker.

Dywedodd James Robertson, golygydd Natur Cymru, 'Roedd y beirniaid yn cytuno'n unfrydol ar enillwyr y ddwy wobr. Roedd y ddau yn rhagorol. Rhoddir y wobr gyntaf i John Harold am ei waith gwreiddiol, pwerus am dân ar yr ucheldiroedd. Rhoddir yr ail wobr i Frances Voelcker, am ei darn ystyriol, telynegol sy'n disgrifio ei mynydd'.

Disgrifiodd Andrew Forgrave, golygydd materion gwledig y Daily Post a'r beirniad arall, y ddau gyflwyniad buddugol: 'Mae Fire-Fighting yn mynegi barn uniongyrchol ar fater sy'n dwyn dinistr i fryniau Cymru yn flynyddol. Diffoddwr tân neu losgwr? Yn fedrus, mae'r awdur yn aros ei gyfle cyn cyflwyno'r gwir, ac yn gorffen y darn yn grefftus â rhai safbwyntiau personol. Mae Graig Goch yn ddarn telynegol. Er nad oes naratif cryf mae delweddau bendigedig ac, ar y diwedd, teimlir cyswllt yr awdur â'i phwnc yn glir. Ysgrifennu trawiadol, heriol gan saer geiriau dawnus.'

Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru: 'Mae WWF Cymru yn falch iawn o fod wedi noddi cystadleuaeth ysgrifennu Natur Cymru eleni. Y gobaith yw y bydd darllen gwaith mor ddawnus yn annog pobl eraill i ddarganfod rhyfeddodau byd natur a rhai o'r bygythiadau maent yn eu hwynebu.'

Mae'r ymgeiswyr eraill a gafodd wobr gydradd yn y gystadleuaeth, a theitlau eu herthyglau, fel a ganlyn:

John Woolner Welsh Dragon
Merlin Evans A Little Bird Told Me
Julian Jones Re-Wilding My Town

Cyhoeddir yr erthyglau buddugol yn rhifyn haf Natur Cymru sy'n dathlu ei 10fed pen-blwydd. Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Ngŵyl y Gelli ar stondin RSPB am 3 pm ddydd Mawrth 31ain Mai.

No comments:

Post a Comment